Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Ofal Sylfaenol

 

 

YMATEB ODDI WRTH FWRDD IECHYD ADDYSGU POWYS

 

 

 

Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ddyhead i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol o ansawdd uchel, ac mae ganddo hanes o wneud hyn. Mae ganddo seilwaith gofal sylfaenol cryf ac mae eisoes yn darparu arfer gofal sylfaenol estynedig sydd wedi’i gysylltu â rhwydwaith o ysbytai cymunedol y mae meddygon teulu’n eu harwain, sy’n golygu bod gwasanaethau diagnosteg a thriniaeth o fewn cyrraedd a’u bod yn rhan allweddol o’r gofal heb ei drefnu a’r gofal cynlluniedig y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu darparu.


Mae’r cryfderau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu’r model cydweithredol lleol a chynllunio gwasanaethau ar sail anghenion. Cyn hyn, nid oedd anawsterau wrth recriwtio mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o blith meddygon teulu a staff gofal sylfaenol traddodiadol eraill, fel Nyrsys Practis, yn ddigon sylweddol i ysgogi newid, ond yn ddiweddar mae’r heriau hyn yn dod i’r amlwg ar draws sawl rhan o’r sir ac maent yn risg eglur a phresennol ar gyfer gwasanaethau bychain sydd wedi’u dosbarthu dros ardal ddaearyddol fawr.


Mae cael gafael ar gyngor arbenigol yn gymhleth ac yn llawn her ym Mhowys oherwydd bod yna berthynas â nifer o ddarparwyr. Mae hi felly’n flaenoriaeth benodol i’r Bwrdd sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau lleol, yn galluogi technoleg ac yn annog rhwydweithiau proffesiynol i gefnogi llwybrau lleol sy’n defnyddio’r ddarpariaeth gymunedol i’r eithaf. Mae hwn yn faes y mae Powys wedi arwain â modelau arloesol ynddo a fydd o werth ledled GIG Cymru, a gall barhau i wneud hynny.


Bydd sicrhau yr ystyrir Powys yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu, hyfforddi ac ymchwilio i’r model gofal cymunedol yn ei gwneud yn haws recriwtio a chadw staff. Bydd y profiad ym Mhowys yn sicrhau hyder yn y sgiliau estynedig y mae galw amdanynt i gael model cymunedol sydd wedi’i ddatblygu’n llawn.
Bydd rhwydweithiau proffesiynol cryf yn cefnogi llwybrau clinigol i ganolfannau arbenigol ac yn darparu cyfleoedd hyfforddi di-dor a fydd yn adlewyrchu profiad y claf ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwell.

 

Mae’r dyhead hwn, y cyd-destun penodol a’r hanes o ddarparu yn golygu bod yr amodau’n iawn i BIAP a’i ymarferwyr gofal sylfaenol cysylltiedig arwain y ffordd ar draws Cymru, a nod y cynnwys isod yw amlinellu ein sefyllfa ar hyn o bryd fel Bwrdd, ac amlinellu ein tri Chlwstwr cysylltiedig.

 

Mae BIAP yn chwarae rhan bwysig mewn nifer o grwpiau Cymru gyfan ac yn enwedig y grŵp Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl y mae ein Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol yn ei gadeirio, ochr yn ochr â’r HYB sydd newydd ei sefydlu. Mae’r grŵp hwn wedi darparu ymateb trosfwaol i’r Ymchwiliad, yn canolbwyntio ar y Rhaglen Pennu Cyfeiriad (Pacesetter), â’r nod o ddwyn sylw at y modelau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer darparu gofal sylfaenol, llawer ohonynt nawr yn bodoli ac yn cael eu cyflawni mewn sawl rhan o Bowys, er nad yn llwyr efallai hyd yma.

 

1. Sut y gall rhwydweithiau clwstwr meddygon teulu yng Nghymru helpu i leihau’r galw ar feddygon teulu, ac i ba raddau y gall clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ym maes gofal sylfaenol)

 

Mae amrywiaeth o fodelau clwstwr yn dod i’r amlwg ledled Cymru, sy’n addas ar gyfer gwahanol boblogaethau cleifion, pobl broffesiynol a daearyddiaeth. Mae caniatáu i wahanol fodelau ddatblygu ac, ar yr un pryd, sicrhau fframweithiau llywodraethu a chanlyniadau safonedig, yn effeithiol i bob golwg. Ymhlith buddion modelau clwstwr mwy ffurfiol, a’r ffederasiynau meddygon teulu sy’n datblygu, mae gwasanaethau mwy sefydlog, ymrwymiad cryfach ymhlith ymarferwyr i newid trawsffurfiol, a ffyrdd newydd o weithio. Ledled Powys, mae cyfnodau datblygu’r clystyrau’n amrywio rhyw ychydig ond, ym mhob achos, mae ganddynt elfennau o’r nodweddion a ganlyn ar waith.

 

1.1 Tîm Clwstwr Amlddisgyblaethol

Mae yna gyfleoedd sylweddol i reoli’r galw am ofal sylfaenol trwy ddull tîm amlddisgyblaethol o weithredu, gan gyfateb arbenigedd gweithlu’r clwstwr ag anghenion a galw’r boblogaeth leol. Mae timau clwstwr mewn sefyllfa dda i ddarparu gofal cyfannol oherwydd eu bod yn deall hanes clinigol, sefyllfaoedd cymdeithasol, cefndiroedd personol a theuluoedd eu cleifion, a’r pethau sy’n eu hysgogi.   Mae amrywiaeth eang o setiau sgiliau proffesiynol, gyda phob aelod o’r tîm yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser ar weithgareddau sy’n ychwanegu’r gwerth mwyaf, yn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal priodol heb unrhyw oedi diangen.

 

1.2 Brysbennu Clinigol

Mae system brysbennu clinigol yn cyfeirio cleifion at y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol yn y tîm clwstwr yn y fan a’r lle, gan gwtogi ar wastraff a chynyddu effeithlonrwydd y practis fel bod y gofal cywir yn dod yn fwy hygyrch. Mae brysbennu clinigol o ansawdd uchel yn hybu diogelwch y claf trwy hwyluso asesiad cynnar; mae llai o ‘sŵn’ yn y system yn helpu nodi pobl sâl a nodi cyfleoedd i gael ymyrraeth gynnar yn gyflymach. Byddai safonau a chanllawiau cenedlaethol yn hybu systemau diogel ac effeithiol ar gyfer brysbennu clinigol. Ym Mhowys, darperir enghreifftiau o frysbennu clinigol o bell trwy ein darparwr y Tu Allan i Oriau (Shropdoc) a hefyd mewn modd penodedig o fewn practis (ein prosiect Pennu Cyfeiriad). Mae’r ddwy enghraifft wedi dangos gwelliant amlwg o ran effeithlonrwydd, a gwelliant sylweddol o ran cael gwasanaethau o fewn cyrraedd, ochr yn ochr ag elfen bwysig arall, sef cynaliadwyedd arfer. 

 

1.3 Integreiddio â Gofal Arbenigol

Mae staff arbenigol, megis ymgynghorwyr Gofal yr Henoed a nyrsys arbenigol sy’n gweithio ochr yn ochr â thimau clwstwr, yn gallu cael effaith sylweddol trwy gefnogi gofal yn y gymuned a darparu cyfleoedd addysgol ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol.  Mae arbenigedd arbenigwyr sydd ar gael mewn lleoliad cymunedol yn gallu cefnogi darparu gofal ar gyfer cyflyrau cronig, gan gynnwys y gwaith rheolaidd o reoli’r rhan fwyaf o ofal ar gyfer diabetes, dermatoleg a chlefydau cardiofasgwlaidd.

 

1.4 Gwasanaethau Gofal Sylfaenol y Tu Allan i Oriau

Ym Mhowys, Shropdoc, sef Cwmni Buddiannau Cymunedol dielw, sy’n darparu gwasanaethau y Tu Allan i Oriau. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r gwasanaeth hwn wedi’i drawsffurfio o wasanaethau traddodiadol y mae meddygon yn eu harwain i dîm asesu a chyflawni amlbroffesiwn. Mae Shropdoc nawr yn darparu gwasanaeth brysbennu clinigol o bell i nifer o Bractisau Meddygon Teulu yn ystod oriau, gan ddarparu gofal di-dor i gleifion ar draws y rhyngwyneb yn ystod oriau / y tu allan i oriau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i gleifion cymhleth, yr henoed a’r rheini sy’n derbyn gofal lliniarol, er mwyn sicrhau dealltwriaeth o anghenion unigol a pharhad gofal.

 

1.5 Seilwaith ar gyfer Clystyrau

Mae fframwaith llywodraethu cryf, gydag indemniad ac atebolrwydd clir, yn sylfaen hanfodol ar gyfer modelau clwstwr newydd. Yn ôl timau Pennu Cyfeiriad, mae systemau rheoli gwybodaeth a thechnoleg gofal sylfaenol cadarn, hawdd i’w defnyddio’n bwysig i gefnogi ailgynllunio, cyfathrebu, cydweithio, meincnodi a chipio data awtomataidd ar sail clystyrau. Rhaid alinio prosesau adnoddau dynol a systemau ariannol er mwyn newid yn gyflym. Yn gynyddol, mae angen i ddyluniad stadau gefnogi gweithio mewn timau amlddisgyblaethol ar sail clystyrau. Mae gwaith wedi bod ar y gweill yn ddiweddar ym Mhowys i sicrhau bod y clystyrau’n gweithio’n symbiotig gyda’r timau rheoli bro sy’n eu cefnogi. Y disgwyl yw y bydd clystyrau ledled Cymru’n dechrau dod yn fwy cyfrifol ac atebol am adnoddau sydd wedi’u datganoli ac sy’n fwy na’r adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u dyrannu’n ddiweddar. Bydd BIAP yn gweithio’n agos â’i glystyrau i sicrhau bod datblygiadau o’r fath mewn llywodraethu ac atebolrwydd yn dod yn rhan annatod o’u datblygiad parhaus. 

 

1.6 Gwasanaethau Iechyd Meddwl o Fewn Cyrraedd

Mae’n amlwg bod gallu cael gafael yn gyflym ar ddarpariaeth iechyd meddwl priodol, a yrrir yn lleol, yn dod yn thema gref yn y cynlluniau clwstwr sy’n dod i’r fei ledled Cymru.  Mae ail flwyddyn cynlluniau clwstwr ledled Cymru’n dangos tystiolaeth o glystyrau’n comisiynu MIND a darparwyr eraill ar gyfer clinigau iechyd meddwl mewn practisau.  Mae Clwstwr De Powys wedi datblygu dull o weithredu o’r fath, ac mae hyn yn dangos dull seiliedig ar anghenion o fynd ati i ddatblygu gwasanaethau, gan alluogi clinigwyr ar y rheng flaen i nodi a datrys materion y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu mewn ffordd briodol.

 

2. Y tîm amlddisgyblaethol sy’n dod i’r amlwg (sut y mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal yn perthyn i’r model clystyrau newydd a sut y gellir mesur eu cyfraniad)

 

Mae’r dull clwstwr wedi galluogi datblygu ffordd gydweithredol, seiliedig ar anghenion o weithredu sydd wedi’i adeiladu o amgylch y model seiliedig ar restri practisau meddygon teulu. Mae rolau gweithlu newydd, wedi’u recriwtio ar lefel Clwstwr, wedi galluogi timau lleol i roi modelau newydd ar brawf heb unrhyw risg i bractisau annibynnol lleol bach. Mae BIAP wedi darparu arian iro ar gyfer hyn, er mwyn rhoi cyfle i bractisau a chlystyrau redeg cynlluniau peilot a gwerthuso modelau o’r fath cyn gwneud newidiadau tymor hir.  Mae’r ymdrech hon ar y cyd hefyd wedi hybu gwerth y model cydweithredol ac wedi dwyn sylw at botensial adnoddau eraill yn y gymuned, megis darpariaeth y trydydd sector. Bu’r prosiectau Pennu Cyfeiriad yn ymchwilio i rolau estynedig ar gyfer parafeddygon, ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, technegwyr, therapyddion galwedigaethol, cwnselwyr iechyd meddwl a gweithwyr proffesiynol yr Awdurdod Lleol mewn amgylchedd clwstwr. Wrth werthuso’r rolau a’r gwasanaethau newydd hyn, edrychwyd ar eu heffaith ar foddhad y claf, ar faint o gwtogi oedd ar ymgynghoriadau wyneb yn wyneb â meddygon teulu ac ar faint yr osgowyd mynd â chleifion i mewn i’r ysbyty. Mae ymchwil arall wedi cynhyrchu tystiolaeth o fuddion rolau mewn clystyrau ar gyfer Cymdeithion Meddygol, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, dietegydd, optometrydd, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ymgynghorwyr Newid Ymddygiad a hylenyddion deintyddol. Ym Mhowys, roedd llawer iawn o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hyn eisoes ar waith ac mae hyn wedi tyfu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ffyrdd o weithio o’r fath bellach yn rhan annatod o ddull arferol nifer o bractisau BIAP o weithredu. Nid yw hyn heb unrhyw her, fodd bynnag, yn enwedig yr angen i feddygon teulu ddatblygu sgiliau newydd o ran rheoli timau amlsgiliau mawr.

 

2.1 Gweithio mewn tîm

Er mwyn llwyddo, mae’n hanfodol bod y tîm gofal sylfaenol sy’n bodoli’n dod yn berchen ar rolau newydd clystyrau. Timau sy’n mynd ati i asesu anghenion iechyd lleol a’r galw ymhlith cleifion er mwyn recriwtio gweithwyr proffesiynol â’r sgiliau priodol sy’n gweld y budd mwyaf. Mae nodweddion personol staff clwstwr, yn enwedig bod yn chwaraewr tîm, yn bwysig i lwyddo.

 

2.2 Rolau estynedig ym Mhowys

·         Gall fferyllydd y clwstwr weithio mewn maes clinigol arbenigol neu mewn rôl fwy generig, yn rhoi sylw i amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â meddyginiaeth.  Mae fferyllwyr profiadol yn nodi cleifion sydd mewn risg uchel o safbwynt meddyginiaethau, ac yn cefnogi cleifion i reoli eu hiechyd eu hunain, gan ddefnyddio cyngor a rhagnodi cymdeithasol i gynnig dewisiadau amgen i feddyginiaeth.  Ym Mhowys, mae yna ryw 8 o arbenigwyr tra chymwysedig sy’n gwneud y gwaith hwn ar lefel clwstwr a phractis penodedig. Maent wedi bod yn elfen allweddol o ran cynaliadwyedd a gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch.

 

·         Mae ffisiotherapyddion â chwmpas estynedig yn arwain gwasanaethau cyhyrysgerbydol llwyddiannus mewn timau clwstwr, sydd wedi cwtogi ar nifer yr ymgynghoriadau meddygon teulu ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol. Bu tri chynllun peilot o hyn ar waith ym Mhowys, pob un yn gwireddu buddion positif iawn ac sydd nawr yn cael eu defnyddio gan bractisau ar y cyd â BIAP.

 

·         Mae Uwch Ymarferwyr Nyrsio’n cynorthwyo â chleifion mwy cymhleth, a gallant ymgymryd â brysbennu clinigol mewn clystyrau. Yn ôl practisau, mae’n bwysig alinio rolau nyrsio newydd â gwasanaethau sy’n bodoli i sicrhau cynllunio a chydlynu da.

 

·         Mae cwnselwyr iechyd meddwl yn rheoli amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cleientiaid sy’n dychwelyd yn fynych, ac yn cynnig technegau ymyrryd byr lle bo’n briodol.  Mae Clwstwr De Powys wedi defnyddio rhywfaint o’i gyllid i gyflogi MIND i ddarparu’r gwasanaeth hwn ar draws y clwstwr.

 

·         Ar draws Gogledd Powys, ac ar y cyd â’r darparwr gwasanaeth y tu allan i oriau, rydym wedi cyflwyno Ymarferwyr Gofal Brys ar lefel practis mewn rhwydwaith ar draws Clwstwr y Gogledd. Mae’r clinigwyr hyn, sydd â sgiliau ymarfer uwch, ac sy’n aml â chefndir parafeddygol ac wedi’u hyfforddi mewn amrywiaeth eang o sgiliau asesu clinigol a phenderfynu, yn trin cleifion yn agos at gartref, yn gwneud profion yn y fan a’r lle, yn cwtogi ar ymweliadau diangen â’r ysbyty ac yn gweithredu fel adnodd pellach i gynorthwyo cynaliadwyedd. 

 

2.3 Trefniadau cydweithredol

·         Gall integreiddio â staff yr awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol ar sail clystyrau gwtogi ar nifer y rhai sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn aros yn yr ysbyty. Mae cyfarfodydd rheolaidd y tîm amlddisgyblaethol yn cefnogi unigolion i fyw yn annibynnol gartref, gan osgoi gorfod defnyddio gofal preswyl neu ofal cartref nyrsio. Ym Mhowys, mae uwch staff gwaith cymdeithasol bellach yn mynychu cyfarfodydd clystyrau ac maent yn rhan hanfodol o dimau amlddisgyblaethol y Rhith-ward. Yn ogystal â gweithio gyda Chyngor Sir Powys a PAVO, mae yna 9 o gysylltwyr cymunedol yn eu lle sydd hefyd yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol ein Practisau a’n Rhith-ward. Yn ystod 2017, byddant yn dechrau dod yn rhan o dimau amlddisgyblaethol yr Ysbytai Cymunedol hefyd.

 

 

3. Yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol

 

Ledled Powys dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae rhai practisau wedi dod yn fwy a mwy bregus. Roedd hyn, yn bennaf, oherwydd heriau recriwtio, hyd yn oed mewn rhai o’r ardaloedd llai gwledig. Hefyd, mae pob practis trwy’r clystyrau a’r cynlluniau clwstwr wedi codi pryderon ynglŷn â llwyth gwaith trymach a mwy cymhleth. Mae BIAP wedi defnyddio Fframwaith Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru i feirniadu’r risgiau perthynol y mae pobl yn eu hwynebu ledled Powys, ac mae wedi bod yn gweithio gyda 3 phractis Risg Uchel a 4 practis Risg Canolig hyd yma o ran eu cynaliadwyedd parhaus. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn ystyried buddsoddi mewn modelau gweithlu newydd fel y disgrifir yn Adran 2 uchod, ac mae wedi darparu arian iro ar gyfer gwaith datblygu o’r fath ar lefel practis trwy ariannu practisau i archwilio’r modelau newydd ac ariannu’r gwaith archwilio ac arloesi hwn.

 

Mae BIAP hefyd wedi defnyddio’r arian a ddyrannwyd ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol i ddatblygu rhaglen ar gyfer cyflwyno Cymdeithion Meddygol o Brifysgol Birmingham (ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) ac, yn fwy diweddar, o Brifysgol Abertawe.


Ledled Powys, mae gennym rafft o weithwyr newydd yn y gweithlu, sy’n gweithredu ar lefel clwstwr ac ar lefel practis, gan gynnwys; Ymarferwyr Gofal Brys, Uwch Ymarferwyr Nyrsio (gan gynnwys brysbennu clinigol o bell), Uwch Ffisiotherapyddion, Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferyllol, Cymdeithion Meddygol a rhaglen hyfforddi ar gyfer haen o weithwyr tebyg o Brifysgolion. 

 

Timau Cymorth Byrddau Iechyd

Mae ffyrdd i wneud i bractisau allu ymdopi’n well, ac i hwyluso recriwtio, yn destun gwerthusiad ledled Cymru. Byddai dull cydweithredol o weithredu ar draws byrddau iechyd cyfagos yn helpu i ddefnyddio adnoddau i’r eithaf a denu gweithwyr proffesiynol newydd. Mae cynlluniau gyrfa hyblyg yn cynnig swyddi diddorol i feddygon teulu ac, ar yr un pryd, yn darparu meddygon locwm i bractisau ar draws clwstwr neu ardal bwrdd iechyd. Bydd y gwaith hwn yn galw am ganolbwyntio ar ddatblygu cyfundrefnol sylweddol, ac efallai na fydd yn gwbl berthnasol ym Mhowys, o ystyried ein daearyddiaeth. O fewn BIAP, rydym yn bwriadu datblygu timau cefnogi a datblygu ar lefel Clwstwr ac ar y cyd â Shropdoc.

 

 

Tasglu Gweinidogol ar y Gweithlu

Mae’r tasglu Gweinidogion wedi dod â ffocws i’w groesawu i weithgareddau’r gweithlu, gan ganolbwyntio’n gryf i ddechrau ar recriwtio a chadw meddygon teulu, ar ffurf ymgyrch recriwtio genedlaethol wedi’i hategu gan weithgareddau byrddau iechyd lleol (mae’r ffocws hwn nawr yn symud i gwmpasu gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol).  Mae hefyd â’i fryd ar gyflymu gwaith datblygu rhagolygon y gweithlu gofal sylfaenol, nad ydynt wedi’u datblygu’n dda o’r blaen.  Bydd datblygu gwaith cynllunio gweithlu mwy fforensig ym maes gofal sylfaenol, fel rhan o ddull system gyfan o weithredu, yn cefnogi cynrychioli’n well yr her recriwtio, a’r gweithgareddau angenrheidiol i’w hateb, mewn Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.


4. Y cyllid sy’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i glystyrau er mwyn galluogi practisau meddygon teulu i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio; sut y mae arian yn cael ei ddefnyddio i leihau’r pwysau ar bractisau meddygol teulu, gwella gwasanaethau a’r mynediad sydd ar gael i gleifion.


O safbwynt BIAP, rydym yn bendant o’r farn bod ariannu clystyrau’n uniongyrchol (gyda £6m o gyllid canolog) wedi bod yn llwyddiant ar y cyfan.  Yn achos pob un o’r tri chlwstwr, mae’r Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu dull cyffyrddiad ysgafn eglur o weithredu, a’i unig fwriad oedd sicrhau bod y cyllid yn cael ei roi ar waith i ateb materion cynaliadwyedd a mynediad neu i ateb y prif flaenoriaethau o fewn y cynlluniau datblygu clystyrau.

 

Ym Mhowys ac ar draws pob un o’r tri chlwstwr, bu ffocws ar ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cleifion mor agos at gartref â phosibl. Mewn llawer o achosion, defnyddiwyd hyn i ateb materion hirsefydlog yn ymwneud â datblygiad, ac mewn achosion eraill mae’n cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â heriau sy’n dod i’r amlwg ac, yn aml, ar sail cyllid cyfatebol gyda’r Bwrdd Iechyd.  Mae’r Pwyllgor Meddygol Lleol wedi canmol BIAP am ei ddull o weithredu. Bydd hyn yn nodwedd barhaus o ffordd BIAP o weithio gyda’i Glystyrau cysylltiedig.

 

Mae gweithgareddau a gomisiynir ar lefel leol wedi amrywio ar draws nifer o feysydd gan gynnwys; Cynorthwywyr Gofal Iechyd Eiddilwch, gwasanaethau cwnsela MIND, e-Ymgynghorydd meddygon teulu, Fferyllwyr yn y Practis, profion yn y fan a’r lle, datblygu Ymarferwyr Gofal Brys, penodi Cymdeithion Meddygol, cael dadansoddwr canlyniadau data a sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol.

 

Mewn blynyddoedd i ddod, bydd yna fwy a mwy o alinio positif rhwng blaenoriaethau gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd, y rhaglen Pennu Cyfeiriad a chynlluniau Clwstwr.

 

5. Heriau o ran llwyth gwaith a’r newid i atal sylfaenol yn y gwasanaethau a ddarperir gan feddygon teulu i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth a thargedu anghydraddoldebau o ran iechyd

 

Mae dull tîm amlddisgyblaethol o weithio mewn clwstwr, gyda gweithlu sydd wedi’i seilio ar anghenion iechyd y boblogaeth, yn cynnig cyfleoedd i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar. Trwy alinio hyn â’r model seiliedig ar restri meddygon teulu, sicrheir y gwneir y gorau o botensial dull iechyd cyhoeddus o weithredu sy’n defnyddio gwybodaeth fel data’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau i ddarparu sail ar gyfer cynlluniau gwasanaethau a thargedu angen sydd heb ei ddiwallu. Wrth gynllunio ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol, bydd yn hanfodol cynnwys gwasanaethau sy’n cefnogi hunanofal, rhagnodi cymdeithasol a hybu iechyd a lles y tu allan i’r model meddygol traddodiadol. Dylid cwestiynu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei gynnal trwy wiriadau iechyd y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal (rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf), sydd nawr yn cael ei gyflwyno fesul cam yn genedlaethol, er mwyn gweld beth yw ei effaith ar ganlyniadau yn sgil ymyrraeth gynharach.  Yn y dyfodol, dylid ystyried dadansoddi’r rhestr a segmentu’r rhestr i reoli risg yn well yn y boblogaeth. Mae gan waith datblygu sgiliau cynllunio a sgiliau iechyd cyhoeddus ar lefel clwstwr botensial mawr i sicrhau bod gwasanaethau mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

 

Dylid ystyried ymhellach yr ymchwil a gynhaliwyd i’r model PRISM, i weld beth yw ei botensial i gefnogi modelau rhagweld gofal.

 

6. Aeddfedrwydd clystyrau a’r cynnydd gyda gwaith clystyrau mewn gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol, gan nodi enghreifftiau o arfer gorau

 

Byddai ymatebion BIAP i’r cwestiynau uchod, yn ein barn ni, yn dangos bod y clystyrau ym Mhowys yn aeddfedu ac yn gweithio’n dda, a bod ganddynt y potensial i dyfu ymhellach. Mae hyn yn arbennig o wir o ran datblygu modelau gweithlu newydd a’r rhan eglur y mae llu o randdeiliaid newydd yn ei chwarae, gan ddylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygu clystyrau.

Yn BIAP, mae Timau Rheoli ymroddedig sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymunedol ac am gomisiynu gofal eilaidd, ac sydd â phartneriaeth barhaus â gwasanaethau gofal sylfaenol lleol, yn cefnogi’r Clystyrau, ac maent yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Mae gwaith dros y tair blynedd diwethaf wedi gweld y clystyrau a’r tîm lleol yn cyfuno mewn sawl ffordd wrth fynd ati i gyflawni sawl agwedd ar gynllunio ac, o bryd i’w gilydd, ar ddarparu.

 

Caiff set o drefniadau diwygiedig ei chyflwyno yn ystod 2017 a fydd yn diffinio ymhellach y rolau, y pwrpas, yr atebolrwydd a’r llywodraethu cynhenid ar lefel clwstwr bro. Bydd hefyd yn egluro lle mae’r dŵr glas clir yn gorwedd rhwng cynllunio gwasanaethau seiliedig ar angen y boblogaeth a’r gwaith darparu gwasanaethau o’r fath yn yr amgylchedd gofal sylfaenol.

 

Mae yna gyfeiriadau yn aml mewn llawer o ddogfennau a phapurau ledled Cymru sy’n awgrymu bod clystyrau a ffederasiynau yn gydgyfnewidiol. O safbwynt BIAP, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn wrth ymateb i’r Ymchwiliad i fanylu ar ein cred a’r ffordd rydym yn bwriadu gweithredu.

 

Yn ei hanfod;

·         Bydd Ffederasiynau Meddygon Teulu’n hanfodol er mwyn cael cynaliadwyedd gwell, arbedion maint a modelau darparu cadarn yn y dyfodol. Bydd angen i feddygon teulu ddod yn fwy colegaidd fel grŵp proffesiynol ar draws daearyddiaeth benodol ac, o ganlyniad, dylai fod yn bosibl gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch a darparu amrywiaeth estynedig o wasanaethau.

·         Clystyrau yw’r ardaloedd cynllunio a darparu lleol ar gyfer Byrddau Iechyd gyda phob partner, gan ddefnyddio’r holl adnoddau lleol.

 

 

Bu dadl ynglŷn â’r diffiniad o Glwstwr, ond y diffiniad sydd wedi’i fabwysiadu yn lleol yw:

 

‘Grŵp o feddygon teulu yn gweithio gyda gweithiwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol. Mae meddygon teulu yn y Clystyrau’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi gwaith parhaus Rhwydwaith Bro. Mae’r term Rhwydwaith Bro yn derm a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio’r dull cydweithredol hwn o weithredu.’

 

Yn y Clwstwr: -

·         Bydd gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill ran gyfartal i’w chwarae mewn datblygu cynlluniau lleol.

·         Ystyrir yr holl adnoddau lleol i sicrhau bod gwasanaethau lleol mor effeithiol ac effeithlon â phosibl – gan gynnwys cyllidebau rhaglenni a’r trydydd sector ar gyfer cyflyrau y gellir eu trin yn y gymuned.

·         Bydd gan BIAP ran allweddol i’w chwarae wrth benodi a datblygu arweinwyr Clystyrau a bydd yna strwythurau arweinyddiaeth glinigol eglur a fydd â chysylltiad â’r Tîm Gweithredol, fel ein bod yn gweithio fel ‘sefydliadau integredig’, beth bynnag yw’r contract.

·         Penodir arweinwyr Clystyrau ar sail eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymroddiad – a dylent adlewyrchu’r holl gymunedau proffesiynol amrywiol.

 

 

7. Arweiniad lleol a chenedlaethol yn cefnogi datblygiad y rhwydwaith clwstwr; sut y mae’r camau a gymerir yn ategu’r rheini yng ngweledigaeth 2010 a chynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru, Gosod y Cyfeiriad

 

Mae Powys wedi bod yn ganolog i’r gwaith a wnaed gan Gyfarwyddwyr Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol sydd wedi blaenoriaethu datblygu clystyrau.  Mae rhaglen fwriadol o weithgareddau cefnogi clystyrau, sy’n cael eu cyflawni trwy’r Hyb Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi disodli’r gwaith cynnar ar fodelau i ddeall aeddfedrwydd clystyrau a chyfateb adnoddau ategol. Mae yna nifer o raglenni datblygu arweinwyr i gefnogi gweithio mewn clystyrau y mae arweinwyr clystyrau ledled Cymru’n manteisio arnynt. 

 

Yn lleol, gwnaed ymdrechion sylweddol i gefnogi Clystyrau wrth iddynt ddatblygu ac mae cynlluniau clwstwr bob amser wedi cael blaenoriaeth i’w cynnwys yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig.

 

Mae’r rhaglen Pennu Cyfeiriad, ochr yn ochr â gwaith datblygu sefydliadol, yn dwyn sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth glinigol a rheolaethol wrth arloesi ac ailgynllunio gwasanaethau’n llwyddiannus mewn clystyrau.

 

7.1 Arweinyddiaeth Glinigol

Mae arweinwyr clinigol yn hanfodol i addysgu, cynghori, cefnogi ac arwain arloesedd ac i fod yn atebol. Mae Hyrwyddwyr Clystyrau’n hybu gwasanaethau newydd ac yn rhaeadru sgiliau allweddol ymhlith y tîm Gofal Sylfaenol. Mae sesiynau addysgol i ddangos canlyniadau clinigol gwell yn helpu i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a rhoi sicrwydd iddynt. Dylai’r rhwydweithiau o gyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol a chyfarwyddwyr clinigol gofal sylfaenol sy’n dod i’r amlwg chwarae rhan allweddol mewn galluogi potensial llawn sefydliadau integredig.

 

7.2 Rhwydweithiau Arloesi

Mae gweithdai a hwyluswyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyfleoedd i arweinwyr prosiectau rannu syniadau, profiadau a chanlyniadau, ac wedi galluogi cydweithwyr i ragweld datblygiad ar raddfa fawr ar gyfer dyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru.

 

7.3 Rheolwyr Datblygu Busnes

Mae’r rhaglen Pennu Cyfeiriad wedi profi gwerth rheolwyr practisau profiadol wrth ysgogi arloesedd clystyrau. Mae yna botensial ar gyfer arbedion maint yn swyddogaethau swyddfa gefn/cymorth clystyrau trwy ddatblygu timau o reolwyr practisau, dan arweiniad Rheolwyr Datblygu Busnes profiadol ar sail clystyrau.


 

8. Mwy o fanylion am yr agweddau sy’n cael eu gwerthuso, y cymorth sy’n cael ei ddarparu’n ganolog a’r meini prawf sydd ar waith i bennu llwyddiant neu fethiant y clystyrau, gan gynnwys sut mae mewnbwn gan gymunedau lleol yn cael ei ymgorffori yn y gwaith datblygu a phrofi sy’n cael ei wneud

 

Er bod gwaith yn mynd rhagddo’n genedlaethol yn hyn o beth, dim ond megis cychwyn y mae gwaith BIAP ar werthuso’i gynlluniau amrywiol, ei gysyniadau, ei ffordd o roi pobl ar waith ac ati.

 

Mae gan BIAP gysylltiad â’r rhaglen Pennu Cyfeiriad, a thrwy hyn mae felly wedi cael budd o weithgareddau gwerthuso’r gwaith brysbennu. Fodd bynnag, bydd angen mwy o waith a chymorth cenedlaethol / rhanbarthol i brofi a yw ein ffordd o roi pobl ar waith a’n bwriad strategol o wir fudd ai peidio.

 

Mae’n eglur bod swyddogaethau darparu gofal sylfaenol a chymunedol cryf yn golygu mai ni sydd â’r nifer isaf o achosion brys sy’n cael eu derbyn i ofal eilaidd, ein bod wedi sicrhau bod pob un o’r 17 practis meddygon teulu dal yn hygyrch, ein bod yn cael adborth positif oddi wrth gleifion, y Cyngor Iechyd Cymuned a’n Grwpiau Ffocws Iechyd ynglŷn â’r gwaith sy’n cael ei wneud, a’n bod wedi gwella profiad y claf yn ddramatig trwy ddarparu gofal (yn ofal cynlluniedig ac yn ofal brys) yn agosach o lawer at gartref.

 

Mae angen fframwaith gwerthuso trwyadl i’n helpu i barhau i gynllunio’r llwybr cywir ar gyfer ein gwasanaethau ac i ddarparu gwell sail ar gyfer ein Strategaeth Iechyd a Gofal Hirdymor sydd ar ddod.

 

 

AWDUR : ALAN LAWRIE , DIRPRWY BRIF WEITHREDWR , BWRDD IECHYD ADDYSGU POWYS

 

DYDDIAD : 1af CHWEFROR 2017